|
T欧 ar y Tywod - y daith Cychwyn o amgylch Cymru
Oherwydd anawsterau technegol ni fydd perfformiad o ddrama Gwenlyn Parry, T欧 ar y Tywod, yn Theatr Clwyd nos Iau, Ebrill 21, 2005.
Hon oedd noson gyntaf taith ddiweddaraf y Cwmni Theatr Genedlaethol.
Yn awr, bydd y perfformiadau cyntaf, nos Wener a nos Sadwrn, Ebrill 22-23, 2005 am 7.30.
"Mae canslo perfformiad yn ofid ond yn amhosib ei osgoi," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elwyn Williams.
"Gellir ad-dalu cost tocynnau sydd wedi'u prynu'n barod neu eu defnyddio ar gyfer un o'r ddau berfformiad arall yn Yr Wyddgrug," ychwanegodd.
Fodd bynnag, bydd y sesiwn ar gyfer myfyrwyr Lefel A yn parhau fel y trefnwyd am 4.00 o'r gloch brynhawn Iau, Ebrill 21, gyda'r chyflwyniad i ddysgwyr am 6.30 nos Wener, Ebrill 22, 2005. Awgrymir ffonio 0845 3303565 I sicrhau lle yn y ddau drefniant yma.
Arwyddoc芒d arbennig Bydd ymweliad T欧 ar y Tywod 芒 Clwyd Theatr Cymru yn Yr Wyddgrug o arwyddoc芒d arbennig i ddau o actorion yr ardal.
Dafydd Dafis o Rosllannerchrugog sy'n chware un o'r prif rannau yng nghynhyrchiad cwmni Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Gwenlyn Parry.
Yng nghynhyrchiad cyntaf y ddrama bron i ddeugain mlynedd yn 么l yr oedd rhan ganolog gan Gaynor Morgan Rees sy'n awr yn byw yn Ninbych.
"Rwy'n edrych ymlaen yn arw i weld y dehongliad diweddaraf o ddrama glasurol ac arloesol un o ddramodwyr mwyaf amryddawn a chynhyrchiol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru," meddai Gaynor sy'n cyfrif cymryd rhan ym mherfformiad cyntaf T欧; ar y Tywod yn un o uchafbwyntiau ei gyrfa fel actores.
Carreg filltir Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf yn 1968 ac fe'i hystyrir yn garreg filltir bwysig yn natblygiad y Theatr Gymraeg.
Fe'i cymharwyd 芒 gwaith swreal ac abs诺rd dramodwyr byd eang fel Harold Pinter ac Eug茅ne Ionesco.
"Mae'r ddrama'n canolbwyntio ar y gwrthdaro sy'n deillio pan fo hen ffordd o fyw traddodiadol, er yn prysur ddiflannu, yn cael ei fygwth gan ddatblygiadau newydd , modern a bas," meddai Dafydd Dafis, sydd hefyd yn gyfarwydd fel canwr.
"Nid yw T欧 ar y Tywod wedi'i chyfyngu i unrhyw amser neu leoliad penodol ac er bod 35 mlynedd ers y perfformiad cyntaf mae neges gignoeth y ddrama mor berthnasol heddiw ag y bu erioed," ychwanegodd.
Dyn y Ffair a dyn y T欧 Stori am ddau ddyn yw T欧 ar y Tywod yn y b么n; un yn byw mewn cwt ar y traeth a'r llall yn berchen ffair gerllaw.
Mae Dyn Y Ffair eisiau ehangu ei ffair swnllyd a llwyddiannus ond torrir ar ei gynlluniau gan Ddyn y T欧 sy'n benderfynol o warchod ei gartref doed a dd锚l er bod hwnnw'n suddo i'r tywod.
Ar 么l llawer o wrthdaro mae'r rhod yn troi ac mae Dyn y T欧'n llwyddo i droi'n Ddyn y Ffair ei hun gyda'r potensial o fabwysiadu cymeriad ei ragflaenydd.
Dafydd Dafis sy'n chwarae rhan Dyn y Ffair.
Gwenlyn Fel cynhyrchydd drama gyda 成人论坛 Cymru defnyddiodd Gwenlyn Parry, a fu farw ym 1991, ei dalentau mewn myrdd o wahanol arddulliau yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Cyd-ysgrifennodd y gomedi deledu fytholwyrdd, Fo a Fe, gan fynd yn ei flaen i lansio, ysgrifennu a chynhyrchu Pobol y Cwm.
Ef hefyd ysgrifennodd y gomedi deledu Grand Slam am griw yn teithio i G锚m Rygbi Ryngwladol ym Mharis.
Is-gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts, sy'n cyfarwyddo T欧 ar y Tywod - ei chynnig cyntaf iddi ar ei phen ei hun gyda Theatr Genedlaethol Cymru er iddi weithio'n eang fel cyfarwyddwr theatr ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.
Sesiwn trafod Bydd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o'r ddrama'n cychwyn taith chwe wythnos yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, nos Wener yn awr - ac nid nos Iau - a nos Sadwrn (Ebrill 22-23, 2005).
Rhwng 4.00 a 6.00 o'r gloch brynhawn Iau, Ebrill 21 bydd sesiwn trafod pwnc, cymeriadau a them芒u y ddrama gyda disgyblion sydd 芒 thocynnau i'r perfformiad ac sy'n astudio ddrama fel rhan o'r cwrs Lefel A.
Am 6.30 o'r gloch bydd y cyfarwyddwr, Judith Roberts, hefyd ar gael yn Ystafell Haydn Jones yn Clwyd Theatr Cymru i drafod ffurf y cyflwyniad gyda'r myfyrwyr.
Awgrymir bwcio lle o flaen llaw drwy ffonio 0845 330 3565.
Bydd cyflwyniad mewn "Cymraeg syml" i ddysgwyr yn Clwyd Thetar Cymru am 6.30 o'r gloch, nos Wener, Ebrill 22, 2005.
Y daith Dros y chwe wythnos wedyn bydd y ddrama yn ymweld 芒 Theatr Gwynedd, Bangor (27-30 Ebrill, 2005); Theatr y Lyric, Caerfyrddin, ddydd Mercher, 4 Mai; Theatr Taliesin, Abertawe, 6-7 Mai; Theatr Mwldan, Aberteifi, 13-14 Mai; Theatr Ardudwy, Harlech, 17-18 Mai; Theatr Sherman, Caerdydd, 26-28 Mai. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o'r gloch.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|