Marciau llawn i sioe arbennig
Adolygiad R贸n谩n Ll欧r, Ysgol Gynradd y Dderwen, Caerfyrddin, o bantomeim Hela'r Twrch Trwyth gan Huw Garmon yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, Ionawr 13, 2006.
Yn cyflwyno'r pantomeim: Cwmni Mega
Cymeriadau: Y porthor, Culhwch ac Olwen, Ysbaddaden Bencawr, Y Wrach (Casandra, llys-fam Culhwch), Merch y Wrach a'r Twrch Trwyth
Pantomeim doniol a hwylus yn seiliedig ar chwedl Culhwch ac Olwen a oedd yn gyffrous a llawn hiwmor. Roedd yn addas ar gyfer plant rhwng chwech ac 11 oed a rhoddwyd gw锚n ar wyneb pob un o'r gynulleidfa.
Yn fy marn i, dyna'r bantomeim orau i mi ei gweld yn y Gymraeg.
Hoff gymeriadau:
Fy hoff gymeriad oedd y porthor. Er bod pob un o'r cymeriadau'n dda roedd y porthor yn wych. Roedd bron popeth roedd e'n wneud yn ddoniol - hyd yn oed cerdded!
Set a gwisgoedd - realistig
Roedd y set yn bwrpasol iawn ac yn realistig.
Roedd yn newid y golygfeydd yn esmwyth ac yn effeithiol. Roedd y gwisgoedd yn drawiadol, yn gweddu i'r cyfnod ac yn edrych yn wych ar bob un o'r actorion, yn enwedig gwisgoedd y porthor a'r wrach.
Roedd y gerddoriaeth yn fodern a phawb yn ei fwynhau.
Y caneuon gorau oedd Ring, Ding, Ding ac Amarillo oherwydd eu bod yn gyfoes ac yn gyfarwydd i bawb yn y gynulleidfa, hen ac ifanc!
Un o'r pethau da eraill oedd y goleuadau. Roeddynt yn symud yn sydyn ac yn newid eu lliw yn ddramatig.
I gloi, marciau llawn am sioe arbennig.