|
Tri Rhan o dair Llwyddiant llawn
Adolygiad Glyn Jones o Tri Rhan o Dair. Bara Caws.
Ar 么l ugain o berfformiadau mewn tair wythnos daeth Tri Rhan o Dair i ben gyda noson wefreiddiol yng Nghaernarfon.
Yr oedd hon yn fenter uchelgeisiol gan Theatr Bara Caws; comisiynu tri actor i baratoi eu cyfieithiad eu hunain o dri monolog Alan Bennett o'r enwog Talking Heads.
"Tri unigolyn, tair sefyllfa, un cri o'r galon."
Cadwodd y t卯m yn driw i'r disgrifiad o'r cynhyrchiad gyda bywydau tri unigolyn canol oed dan y chwyddwydr:
Miss Richards, sy'n dod ag ystyr i'w bywyd drwy lythyru; Si芒n, y Mrs Ficer anfodlon a ganfu foddhad yng nghefn siop Mr. Ramesh; Graham, canolbwynt bywyd ei fam - nes daw dyn arall i'w chymryd oddi arno.
Er mor wahanol yw'r cymeriadau mae ganddynt oll yr un broblem - gwacter ystyr - gyda'r cyflwr yn cael ei archwilio o wahanol onglau a chyfieithiad pob actor yn cyfleu hyn gystal 芒'r gwreiddiol.
Mab a'i fam Owen Garmon a gyfieithodd A Chip in the Sugar gyda'i bortread o ddyn yn colli gafael ar ei fam, ei gartref, ac ystyr ei fodolaeth, yn gwbl gredadwy.
Ar brydiau roedd yn frawychus fel yr ychydig eiliadau pan ddaliodd ei ben yn ei ddwylo, byrlymu'i lais a phefrio'i lygaid. Darlun campus o ddyn ar fin colli'i bwyll.
Er yn weddol statig llwyddodd i gipio'n sylw gyda'r modd yr adroddai ei stori. Drwy amrywio mymryn ar ei acen, ar oslef ei lais a rhythmau ei frawddegau llwyddodd i gyfleu sgwrs gredadwy rhwng tri chymeriad, a hynny heb fynd dros ben llestri.
Yn wir, rydym yn adnabod mam Graham gystal ag yr adwaenwn Graham ei hun.
Testun pregeth Olwen Rees a gyfieithodd Bed Amongst the Lentils ac er nad oedd yn amrywio ei llais gystal ag Owen Garmon roedd ei chynhyrchiad yn llawer llai statig; weithiau'n clwydo ar ochr ei chadair, yn lledorwedd yn orfoleddus, weithiau'n sefyll y tu 么l iddi, dro arall yn troi oddi wrthym.
Ei hystum oedd yn cyfleu ei hemosiwn a chanddi hi roedd y stori dristaf gyda'i g诺r yn ei bychanu drwy droi ei phroblemau personol yn destun i'w bregeth.
Yn dristach, nid yw hi yn dweud dim wrtho. Mae'r dull digalon o adrodd ei stori yn ei drist谩u ymhellach. Eto, nid yw'r stori heb ei hiwmor na'i hapusrwydd. Ni all yr undyn byw farnu Si芒n am odinebu, na chwaith beidio 芒 thosturio wrthi pan fo'i chariad yn cefnu arni.
Hoff gymeriad Dyna gyfieithiad Valmai Jones o A Lady of Letters wedyn gyda'r portread o Miss Richards yn anhygoel.
Hi oedd fy hoff gymeriad. Y gwallt bl锚r, y symudiadau afrosgo, yr wyneb gwelw a'r llygaid mawr yn gweddu i'r dim a'i phersonoliaeth egsentric.
Roedd y modd y crychai ei thalcen ac y pwyntiai ei beiro at y gynulleidfa yn ategu hyn ymhellach.
Mae'r monolog yn llawn hiwmor ac eto pan sylweddolwn nad ydym ni mor wahanol ein hunain, yn edliw a chwyno a barnu heb wybod, try'r hiwmor yn ergyd egr.
Ond y newid a ddaw i Miss Richards yn y carchar sydd fwyaf trawiadol. Yma, o bobman, y teimla'n rhydd a'r wyneb gwelw yn pelydru heulwen a hithau'n awr 芒 ffrindiau ac ystyr i'w bywyd.
Eironig braidd, a hithau wedi bwrw'i llach ar amgylchiadau carchardai ar ddechrau ei stori.
Plethu drwy'i gilydd Yn wahanol i'r disgwyl, ni chwaraewyd y monologau fesul un yn gyflawn ar eu hyd, un ar 么l y llall ond yn llawer mwy effeithiol perfformiwyd y tri monolog drwy'i gilydd a chadwodd yr amrywiaeth hwn ddiddordeb y gynulleidfa o'r dechrau i'r diwedd.
Symudwyd o gymeriad i gymeriad yn y lle iawn bob tro a hynny heb amharu ar lif y naratif.
Yn ddiddorol rhennid y darnau hyn ymhellach trwy gyfrwng y golau, a bylai fymryn i wahaniaethu rhwng y digwyddiad a'r canlyniad. Prawf o ddawn cyfarwyddo Betsan Llwyd.
Tair cadair oedd i'r set, un i bob cymeriad, a'r tu 么l iddynt gefndir du.
Uwch pob cymeriad roedd sgw芒r p诺l o oleuni, yn union fel ffenest gan wneud imi feddwl bod y cymeriadau mewn ystafell dywyll yn adrodd eu hanes.
Yn fwy effeithiol, roedd y 'stafelloedd' hyn yn llwm, yn union fel bywyd y cymeriadau. Yn yr un modd, y gwisgoedd syber i ddangos diflastod byw.
Chwerthin a syfrdandod Roedd ymateb y gynulleidfa'n dyst i lwyddiant y noson; weithiau'n morio chwerthin, weithiau'n syfrdan fud wrth i dri chymeriad a thair rhan o fywyd gael eu datgymalu o flaen ein llygaid.
Adwaenem bob cymeriad er bod y rheini wedi'u trawsblannu o'r llwyfan Saesneg i'r theatr Gymraeg a hynny'n dystiolaeth o dalent y tri actor, o ddawn cymeriadu Alan Bennett a'i adnabyddiaeth drylwyr o'r ddynoliaeth.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008. Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Lowri Rees
Rhagor am y cynhyrchiad
|
|
|