|
Jac yn y Bocs Sioe Glybiau newydd
Adolygiad Alwyn Gruffudd o Jac yn y Bocs gan Theatr Bara caws. Gwesty'r Marine, Cricieth. Gorffennaf 5, 2006.
Os ydych chi 芒 r么l fach neu fawr ym myd y teledu yng Nghymru ac am gadw pob blewyn sydd gennych chi yn eich trwyn peidiwch 芒 mentro i weld sioe glybiau diweddaraf Theatr Bara Caws.
Mae'r dychan, y tynnu coes a'r dynwared ynddi'n ddidrugaredd.
Gyda chymeriadau abs岷價d a chyfeiriadaeth sydd mor amlwg 芒 haul canol dydd nid gormodaeth yw datgan nad oes owns o gynildeb yn Jac yn y Bocs.
Ychwanegwch yr iaith fras, y cyfeirio diddiwedd at yr organau rhywiol a gwawdio arferol aelodau benywaidd y gynulleidfa fentrodd godi o'u seddi i ateb galwad natur yn ystod y perfformiad, nid yw Jac yn y Bocs fymryn gwahanol o ran ei chyflwyniad i sioeau clybiau eraill Theatr Bara Caws dros y blynyddoedd.
Yn 么l dro ar 么l tro Ond dyna efallai yw'r ap锚l. Dyna yw'r fformiwla sy'n denu cynulleidfa, gan fy nghynnwys innau, yn 么l dro ar 么l tro.
Nid oes digon o drythyllwch i'w gael ac roedd hynny'n amlwg unwaith eto yn ymateb y gynulleidfa ddaeth i weld Jac yn y Bocs ar noson chwilboeth o haf yng Ngwesty'r Marine yng Nghricieth.
Triawd sydd wedi perffeithio'r fformiwla yw awduron Jac yn y Bocs.
Mae gan Bryn F么n, Tony Llewelyn a Dyfan Roberts brofiad helaeth o ysgrifennu sgriptiau ar gyfer sioeau fel hyn ac nid yw Jac yn y Bocs ddim gwaeth nag arfer - a dweud y gwir mae rhai elfennau'n well.
Y stori Y stori'n fras y tro hwn yw hanes g诺r ifanc cyffredin o'r enw Jac Jones gafodd ei anfon o'r Ganolfan Waith i stiwdio deledu i weithio gyda ceffyle.
Ond o ddeall y cyfarwyddid yn iawn cael ei anfon yno i weithio gyda CYFLE - y corff hyfforddi ym myd teledu - wnaeth y llanc!
Mewn cyfres o sgetsiau, caneuon a dawns mae'r sioe yn olrhain ei daith o'r swydd fwyaf distadl ym myd teledu hyd at ei benodiad, drwy amrywiol ddulliau anllad, yn bennaeth S4C.
Ofer yw dweud i'r canlyniadau brofi'n anorfod o drychinebus. Rwy'n peidio ymhelaethu rhag datgelu gormod.
Vesuvius Digon yw dweud bod pob agwedd bron o fyd y cyfryngau, o flaen a thu 么l i'r camera, o dan lach Jac yn y Bocs - o raglenni newyddion i raglenni plant, o'r ddrama glasurol i oper芒u sebon ac o ragolygon y tywydd i Gefn Gwlad a Garddio.
Mae'r cyflwynwyr, y cyfarwyddwyr y cynhyrchwyr a'r cynllunwyr set, hyd yn oed, yn ei chael hi.
Bydd y defnydd o sparkler i ddynodi mynydd Vesuvius yn ffrwydro yn aros yn y cof am amser maith.
Haeddu cyfres Agwedd arall fydd yn aros yn y cof o weld Jac yn y Bocs yw'r dychan gwleidyddol na fu mor amlwg yn sioeau clybiau diweddar Theatr Bara Caws ac sydd i'w groesawu.
Heb os mae'r cymeriad Ieuan Bach ymddangosodd yn sgets y rhaglen blant yn haeddu cyfres iddo'i hun.
Clown yw Ieuan Bach gyda wyneb a dwylo dyn yn ei oed a'i amser ond 芒 chorffolaeth corrach.
Fel pob clown mae ganddo drwyn coch ac yn mynnu gwadd pawb i'w Barti hi hi hi.
Mae ganddo flodyn mawr melyn neu babi Cymreig ar y frest - melyn oherwydd mai dyna yw lliw "sybmarine y Beatles, bananas ...a... a...a chachwrs!!
Dim ond pump Pum actor yn unig sy'n cynnal Jac y Bocs a hynny'n ddi-dor am awr a hanner.
Methais 芒 chyfrif sawl gwahanol gymeriad a bortreadwyd ganddynt i gyd. Cryn gamp fu amlder y newid dilladau o ystyried yr hin.
Unwaith eto profodd berfformiadau ac amseriad perffaith Maldwyn John ac Eilir Jones gymaint o drysor yw'r ddau actor yma i fyd y gomedi Gymraeg.
Mae'r gallu gan y ddau gym锚r yma i ennyn chwerthin heb yngan yr un gair - mae eu hedrychiad yn fwy na digon yn aml.
Llwyddodd Eilir ddiosg stamp y Ffarmwr Ffowc y tro hwn gan bortreadu sawl r么l cameo yn llwyddiannus. Ond fe ddrylliwyd y cwbl pan ymddangosodd y Ffarmwr Ffowc hefyd ar y llwyfan yn y man.
Yn eironig ddigon teimlwn mai dyna oedd portread gwanaf y sioe. Bwriadol? Wn i ddim.
Llyr Evans sy'n chwarae Jac yn y Bocs ei hun a chafwyd perfformiadau clodwiw hefyd gan Lisa J锚n Brown a Catrin Mara. Roedd ynni symudiadau y cast i gyd yn ddigon i fynd 芒 gwynt rhywun ar adegau.
Mae'r set gan Emyr Morris-Jones yn aml bwrpas ac effeithiol gyda'r bylchau ar y wal gefn yn cyfleu sgriniau teledu i'r dim.
Mae'r gerddoriaeth gan Emyr Rhys a'r Cyfarwyddwr yw Tony Llywelyn.
Parod i chwerthin I grynhoi mae Jac yn y Bocs yn nodweddiadol o Sioe Clybiau Theatr Bara Caws; felly byddwch yn barod i chwerthin nes bod eich hochrau'n brifo pan ewch i'w gweld.
Os ydych chi'n gweithio ym myd y teledu byddwch yn barod hefyd i gael eich gwawdio ar goedd yn ddi-dostur.
Ond pwy bynnag ydach chi ewch i'r lle chwech cyn i'r perfformiad ddechrau da chi. Ni chewch unrhyw faddeuant os y codwch chi o'ch cadair yn ystod y sioe, mae hynny'n si诺r.
Dyma fanylion y daith:
Hefyd: Bydd Jac yn Y Bocs yn cael ei llwyfannu o nos Fawrth i nos Wener, Awst 8-11 yn ystod Wythnos yr Eisteddfod yn Neuadd Gymuned Pontlliw, Abertawe. Tocynau ar Werth yn Theatr y Maes neu ffonio 07740637648
Nos Fawrth Gorffennaf 4 Gwesty'r Marine, Cricieth Chris: 01766 5222946
Nos Fercher Gorffennaf 5 Gwesty'r Marine, Cricieth Chris: 01766 5222946
Nos Iau Gorffennaf 6 Gwesty'r Marine, Cricieth Chris: 01766 5222946
Nos Wener Gorffennaf 7 Clwb Simdde Wen, Wylfa, Cemaes Ian 07919205217 neu Linda: 01286 676335
Nos Sadwrn Gorffennaf 8 Clwb Simdde Wen, Wylfa, Cemaes Ian 07919205217 neu Linda: 01286 676335
Nos Fawrth Gorffennaf 11 Clwb Wellmans, Llangefni Gareth: 01248 421660 neu 07766 241786
Nos Fercher Gorffennaf 12 Clwb Wellmans, Llangefni Gareth: 01248 421660 neu 07766 241786
Nos Iau Gorffennaf l3 Clwb Rygbi Bethesda Linda: 01248 601526 neu Huw: 01248 602480
Dim sioe Nos Wener
Nos Sadwrn Gorffennaf 15 Clwb Rygbi Bethesda Linda: 01248 601526 neu Huw: 01248 602480
Nos Lun Gorffennaf 17 Clwb Golff Bala Y Clwb: 01678 520359 neu Bethan: 520309
Nos Fawrth Gorffennaf 18 Clwb Golff Bala Y Clwb: 01678 520359 neu Bethan: 520309
Nos Fercher Gorffennaf 19 Clwb Pel-droed, Caernarfon Huw: 01286 675607 neu 07818651752
Nos Iau Gorffennaf 20 Clwb Pel-droed, Caernarfon Huw: 01286 675607 neu 07818651752
Nos Wener Gorffennaf 21 Clwb Pel-droed, Caernarfon Huw: 01286 675607 neu 07818651752
Nos Fawrth Gorffennaf 25 Gwesty Kinmel Manor, Abergele Deiniol, Menter Iaith Conwy: 01492642357
neu Siop Bys a Bawd, Llanrwst
Nos Fercher Gorffennaf 26 Gwesty Kinmel Manor, Abergele Maldwyn: 01745 860515 neu 07780730166
Nos Iau Gorffennaf 27 Clwb Chwaraeon Porthmadog 01766 514217 neu 07831 101231
Nos Wener Gorffennaf 28 Clwb Chwaraeon Porthmadog neu 01766 512055
Nos Sadwrn Gorffennaf 29 Clwb Chwaraeon Porthmadog
Nos Fawrth Awst 1 Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, Blaenau Ff. Glyn: 01766 830314 neu'r Clwb: 01766 830005
Nos Fercher Awst 2 Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, Blaenau Ff. Glyn: 01766 830314 neu'r Clwb: 01766 830005
Nos Iau Awst 3 Clwb Rygbi Bro Ffestiniog, Blaenau Ff. Glyn: 01766 830314 neu'r Clwb: 01766 830005
Nos Wener Awst 4 Gwesty Dolbadarn, Llanberis Aneurin: 01286 870277
Nos Sadwrn Awst 5 Gwesty Dolbadarn, Llanberis Aneurin: 01286 870277
Nos Fawrth Awst 8 EISTEDDFOD GENEDLAETHOL ABERTAWE A'R CYLCH - Canolfan i'w threfnu
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|