|
Siwan ar daith Gwedd gyfoes i gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru
Un o ddram芒u enwocaf Saunders Lewis fydd cynhyrchiad nesaf Theatr Genedlaethol Cymru.
Drama sy'n ymwneud 芒 chyfnod rhyfeddol yn hanes Cymru gyda phresw芒d yn cael ei ddwyn ar Frenin Lloegr i roi caniat芒d i'w ferch briodi Tywysog o Gymro.
Pan ddigwyddodd hyn yn Rhagfyr 1203. yr oedd yn si诺r o fod yn gamp ddiplomyddol gyda'r fwyaf nodedig yn ein hanes.
Y Tywysog oedd Llywelyn ab Iorwerth neu Llywelyn Fawr - tywysog dros y rhan fwyaf o dir Cymru ar y pryd.
John oedd brenin Lloegr a Siwan yn ferch 15 oed iddo.
Esgorodd yr uniad ar ddegawd o ysbaid yn y rhyfela rhwng yr ymosodwyr Normanaidd a'r Cymry oedd yn eu cael eu hunain fwyfwy dan warchae.
Ond deilliodd y briodas hefyd ar sgandal frenhinol wrth i Siwan gael ei dal ym mreichiau carcharor Normanaidd, Gwilym Brewys - degfed Barwn Y Fenni.
O ganlyniad crogwyd Brewys a charcharwyd Siwan yn ei chartref am flwyddyn nes i'w g诺r faddau iddi am ei chamwedd.
Yn gyfoes Ond gwisg gyfoes fydd i'r stori ganol oesol hon am gariad, chwant a maddeuant yng nghynhyrchiad y theatr genedlaethol meddai Elwyn Williams y rheolwr marchnata.
"Mae'n gynhyrchiad cyfoes o ddrama hanesyddol enwocaf Saunders Lewis," meddai.
Ffion Dafis fydd yn chwarae rhan Siwan gyda Dyfan Roberts fel Llywelyn, Rhys ap Hywel fel Gwilym Brewys a Lisa J锚n Brown fel y forwyn gefnogol, Alys.
Y cyfarwyddwr yw Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts.
Wedi'i lleoli yn ystod Pasg 1230 yng Ngarth Celyn, llys Llywelyn Fawr ger Abergwyngregyn yng Ngwynedd ac fe'i cynhyrchwyd am y tro cyntaf yn 1956.
Ymddangosodd cyfieithiad Saesneg bedair blynedd yn ddiweddarach.
Marw Siwan Bu farw Siwan yn 1237 a sefydlodd ei g诺r fynachlog i Urdd Sant Ffransis yn Llanfaes, Ynys M么n, er cof amdani a symudwyd ei beddrod oddi i Eglwys Biwmares lle mae i'w weld heddiw.
Y daith Bydd y daith yn cychwyn yn Theatr Gwynedd, Bangor (01248 351798), ar nosweithiau Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, 7-10 Mai, 2008, cyn mynd ymlaen i:
Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth (01970 623232) ar nosweithiau Iau a Gwener, 15-16 Mai, 2008;
Theatr Sherman, Caerdydd (029 2064 6900), ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, 20-23 Mai, 2008;
Riverside Studios, Hammersmith, Llundain (020 8237 1111), ar nosweithiau Mawrth a Mercher, 27-28 Mai, 2008;
Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug (0845 330 3565), ar nos Sadwrn, 31 Mai, a nos Lun 2 Mehefin, 2008;
Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe (01792 60 20 60), ar nosweithiau Iau a Gwener, 5-6 Mehefin, 2008;
Theatr Lyric, Caerfyrddin (0845 226 3509/8), ar nosweithiau Llun a Mawrth, 9-10 Mehefin, 2008; a
Theatr Mwldan, Aberteifi (01239 621200), ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, 12-14 o Fehefin, 2008.
Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o'r gloch a dilynir un perfformiad ym mhob theatr gan drafodaeth yng nghwmni'r cyfarwyddwr a rhai o aelodau cast Siwan.
Hefyd, bydd gweithdai ar dechnegau'r actio ar gyfer disgyblion sy'n astudio'r ddrama ar gyrsiau lefel A a gellir cael rhagor o wybodaeth o'r theatrau unigol.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Vaughan Hughes
Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Esther
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|