Drama wleidyddol nid drama grefyddol meddai'r awdur
Er i hyd yn oed yr awdur ei hun ddisgrifio'r ymarferiad fel peth "od ar y naw" mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn cynnal sesiynau ar hyd a lled Cymru yn gwahodd pobl i drafod drama nad yw wedi ei pherfformio hyd yn hyn.
Bydd drama Aled Jones Williams, Iesu yn cael ei pherfformio gyntaf wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Nid oes amheuaeth fod disgwyl i'r ddrama hon fod yn gynhyrchiad mwyaf dadleuol Theatr Genedlaethol Cymru gyda'r Iesu yn cael ei bortreadu fel merch benfoel.
Er i'r awdur ei hun ddweud nad "siocio" yw ei fwriad mae'n amlwg fod y cwmni yn disgwyl ymateb cymysg a chyda hynny mewn golwg y trefnwyd y sesiynau i drafod y ddrama.
Mynychodd rhyw ugain o bobl gyfarfod yn Galeri Caernarfon lle'r oedd y rhaglen radio fore Sul, Bwrw Golwg yn bresennol hefyd.
Bu'r rhaglen yn holi Aled Jones Williams hefyd a gytunodd fod trafod a dadansoddi drama i'r fath raddau cyn i neb hyd yn oed ei gweld yn "beth od ar y naw".
"Dwi'n meddwl mai'r syniad oedd ... ennyn diddordeb yn y cynhyrchiad," meddai.
Y Duwdod yn fenywaidd
Un peth sy'n si诺r o fod yn ddadleuol pan ddaw y ddrama i lwyfan yw'r ffaith fod Iesu yn cael ei ddarlunio fel menyw:
"Yr oedd hynny'n fwriadol oherwydd benywaidd ydi'r Duwdod wedi bod i mi erioed," meddai Aled Jones Williams gan ddweud ei fod yn ymwrthod 芒'r syniad cyffredin o Iesu gyda gwallt hir, melyn, a llygaid glas - "rhywbeth androgynaidd bron".
"Yr oeddwn i eisiau troi hwnna er mwyn taflu pobl oddi ar eu hechel a dwi'n meddwl o safbwynt ymgnawdoliad y medrwch chi wneud y ddadl," meddai.
'Nid drama sioc'
O wneud hyn dywedodd mai chwilio am adwaith y mae yn hytrach na chreu sioc.
"Dydw i'n hun ddim yn meddwl fod hon yn ddrama sioc - dydw i ddim yn meddwl hynny o gwbl ond dwi'n meddwl mewn byd 么l 9/11 fod angen trafodaeth yngl欧n 芒 lle crefydd a natur crefydd ac yn arbennig y berthynas rhwng crefydd a gwleidyddiaeth.
"Ar un wedd mae hon yn fwy o ddrama wleidyddol falle na chrefyddol.
Mi fedrech chi ddadlau mai Pilat ydi'r prif gymeriad ac y gellid fod wedi ei galw hi yn Pilat."
'Pam' yn bwysig
Ychwanegodd mai'r cwestiwn yngl欧n a'r ddrama yw "a fydd hi'n fethiant llwyddiannus yn fethiant da?"
"Be leciwn i yw y byddai pobl o leiaf nid yn dod oddi yno a dweud, Wel dyna ddrama s芒l neu Dyna Ddrama dda ond eu bod nhw'n medru cwestiynu rhywbeth os ydych chi'n grediniwr, Pam, neu os ydych chi'n anffyddiwr, Pam. Y Pam yna sy'n mynd i fod yn bwysig," meddai.
I brif ddalen 'Iesu'
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|