| |
|
Ennyn profiadau Gwyddelig Tachwedd 2005
Bydd Cymraes ifanc yn cael profiad theatraidd "cyffrous" yn sgil cynllun newydd gan yr Urdd sy'n ennyn cydweithio rhwng ieuenctid yng Nghymru ac Iwerddon.
Diolch i gynllun Bendigeidfran bydd Catrin Mair Jones o'r Rhuddlan, Sir Ddinbych, yn cael 'profiad gwaith' gyda Llwyfan Gogledd Cymru sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno'r ddrama dairieithog - Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg - Frongoch yn Iwerddon gyda pherfformiadau yn Limerick, Tachwedd 20 -23.
"Mi fyddwn hefyd yn ymweld 芒 set ac ymuno 芒 chriw Ros Na R煤n, opera sebon Wyddeleg. Mi fydd yn gyfle hefyd i ymweld 芒 chwmni 贵颈产铆苍, cwmni theatr bypedau drwy gyfrwng yr Wyddeleg sy'n addas ar gyfer oedolion a phobl ifanc," meddai llefarydd.
Cyfoethogi Dewiswyd Catrin Mai Jones i gynrychioli Cymru oherwydd ei phrofiad blaenorol yn y maes a'i brwdfrydedd tuag at y theatr.
Meddai Catrin:
"Mi fydd y fath brofiad yn fy nghyfoethogi i fel myfyriwr sydd yn bwriadu dilyn gyrfa yn y maes. Yr wyf yn hynod ddiolchgar i Urdd Gobaith Cymru am roi'r cyfle gwerth chweil yma imi gan y bydd y profiadau yn si诺r o fod o gymorth mawr imi wrth baratoi ac ymgeisio i golegau addysg bellach."
Cynllun newydd gyda'r bwriad o greu cysylltiad gwell rhwng Cymru ac Iwerddon ydi Bendigeidfran trwy gynnig yr hyn a ddisgrifir fel "cyfleon newydd a chyffrous" i Gymry a Gwyddelod ifanc rhwng 16 a 25 oed.
"Bwriad y cynllun yw pontio ieuenctid Cymru ac Iwerddon a sefydlu menter gan ddatblygu cydweithio rhwng mudiadau ieuenctid Cymru ac Iwerddon," meddai'r llefarydd.
Amryw o feysydd Rhan o'r cynllun ydi'r brosiect gyda Llwyfan Gogledd Cymru ac fe fydd Gwyddel ifanc yn ymuno 芒'r cynllun profiad gwaith hefyd.
Ac meddai Nia Meleri, Uwch Swyddog cynllun Bendigeidfran:
"Mi fydd yn gyfle gwych i Catrin ennill profiad mewn amryw o feysydd megis ffilm, theatr, ysgrifennu creadigol a defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf."
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd :
"Ein gobaith yw y bydd cynllun Bendigeidfran yn addysgu ieuenctid Cymru ac Iwerddon am ddiwylliant a thraddodiadau y ddwy wlad ac yn annog dealltwriaeth a pharch at ein ieithoedd a ieithoedd eraill."
|
|
|
|