| |
|
Olifer - Ysgol y Gader Actio, canu a hwyl
Mae'r gerddoriaeth yn bwerus, yr actio'n wych a phawb yn mwynhau wrth ymarfer sioe Olifer ar lwyfan Ysgol y Gader yn Nolgellau yr wythnos gyntaf yn Rhagfyr, 2005.
Gyda'r sioe yn cael ei lwyfannu yn neuadd yr ysgol o ddydd Mawrth tan ddydd Iau roedd y tocynnau yn prysur fynd.
Mae'r ymarfer yn gyffro i gyd ac yn sicrhau fod yr ysgol i gyd yn edrych ymlaen at y sioe fawr.
Mae'r athrawon drama a cherdd a'r cynhyrchwyr, Llinos Lloyd, David Rodgers a Bethan Antur yn gweiddi, yn chwerthin ac yn amlwg yn eu gogoniant yn paratoi sioe fydd yn si诺r o godi'r to.
Mwynhau pob eiliad Dywedodd Bethan Antur iddi fwynhau pob eiliad o'r paratoi ac i saith diwrnod yr wythnos dros dair wythnos fynd i baratoi a sicrhau sioe o safon i'r gwylwyr.
"Mae Olifer yn rhoi cyfle i'r disgyblion actio, canu a chael llawer iawn o fwyniant.
"Cafodd yr ysgol i gyd gyfle i ymuno yn y cast ac mae 'na 100 o ddisgyblion wedi dewis bod yn rhan o'r cynhyrchiad," meddai.
"Mae yna gymaint o waith caled wedi mynd i'r sioe gan yr athrawon a'r disgyblion," ychwanegodd.
Nid oes sioe debyg wedi ei lwyfannu yn yr ysgol er pan lwyfannwyd y sioe lwyddiannus, Mela, bum mlynedd yn 么l.
Cymaint o foddhad "Mae rhywun yn cael cymaint o foddhad yn gweld y plant yn mwynhau ac yn cael gymaint allan o'r perfformiad.
"Mae'n datblygu personoliaeth unigolyn sydd, efallai, heb gael cyfle ar lwyfan cyn heddiw ac wrth gwrs yn meithrin hyder," meddai Mrs Antur.
Bydd dau frawd cerddorol ac enillwyr cenedlaethol o Rydymain yn cymryd awenau'r prif rannau sef Huw Ynyr a Rhys.
"Dewiswyd Olifer gan fod y rhannau yn siwtio disgyblion yn yr ysgol ac wrth weld y sioe yn datblygu, mae'r rhannau wedi aeddfedu.
Cawsom syniadau o'r sioe yn Llundain ac wrth gwrs syniadau o'r ffilm - ond ein dehongliad ni fydd yn cael ei lwyfannu," meddai Mr Rodgers.
Mae nifer fawr wedi rhoi oriau o'i hamser i sicrhau llwyddiant gan gynnwys y timau gwisgoedd, props, set, goleuo a sain sy'n cynnwys amryw o'r athrawon.
Ymateb wedi'r sioe
Bu cryn siarad yn nhref Dolgellau yn dilyn perfformiadau o Olifer gan 100 o ddisgyblion Ysgol y Gader i neuaddau llawn.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ysgol i'r perfformiad agoriadol fod yn wych ac o safon uchel iawn gyda'r athrawon wedi gwirioni 芒 phroffesiynoldeb pob un o'r disgyblion.
"Mi oedd y perfformiad yn anhygoel, ac er bod disgwyl ambelli technical hitch yn ystod y perfformiad cyntaf aeth popeth yn esmwyth a bu i'r ysgol sicrhau perfformiad o safon i'r gynulleidfa.
"Yn dilyn y perfformiad cyntaf nos Fawrth roedd ff么n yr ysgol yn canu'n ddi-baid ddydd Mercher gyda nifer o bobl yn ysu am archebu tocynnau ar gyfer nos Fercher a nos Iau," meddai.
"Mae pob un o'r disgyblion wedi gweithio'n galed i sicrhau perfformiad gwefreiddiol o Olifer ac mae'n braf gweld ffrwyth eu llafur. Roedd hi'n amlwg bod pawb wedi mwynhau, a dwi'n si诺r fydd y disgyblion wedi blino'n lan erbyn dydd ddiwedd y tymor," ychwanegodd.
Dywedodd Bethan Antur iddi hi fwynhau pob eiliad o'r paratoi.
"Roedd Olifer yn gyfle i'r disgyblion actio, canu a chael llawer iawn o fwyniant o'r sioe yma. Cafodd yr ysgol i gyd gynnig i ymuno 芒'r cast a dewisodd 100 o ddisgyblion fod yn rhan o'r cynhyrchiad," meddai.
"Mae rhywun yn cael Cymaint o foddhad gweld plant yn mwynhau ac yn cael gymaint allan o'r perfformiad. Mae'n datblygu personoliaeth unigolyn efallai sydd heb gael cyfle ar lwyfan cyn heddiw ac wrth gwrs yn meithrin hyder," meddai.
Roedd dau frawd cerddorol ac enillwyr cenedlaethol o Rydymain yn cymryd awenau'r prif rannau sef Huw Ynyr a Rhys.
|
|
|
|