I bawb o bob oed
Adolygiad Sarah Williams o Porth y Byddar. Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru. Clwyd Theatr Cymru. 7 Awst, 2007
Bum yn gweld drama newydd Manon Eames ar ei noson agoriadol yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint.
Bydd y ddrama'n awr yn teithio o gwmpas y wlad yn cynnwys un perfformiad yn Theatr Bloomsbury, Llundain, ac ar rai nosweithiau dangosir is-deitlau Saesneg.
'Cychwyn taith
Hanner can mlynedd yn 么l, ar 1 Awst 1957, pasiwyd Mesur Seneddol yn rhoi'r hawl i foddi cwm Tryweryn er mwyn creu cronfa dd诺r i gyflenwi anghenion Lerpwl.
Yn 么l rhai, "Tryweryn oedd man cychwyn y daith i hunan benderfyniad a'r Cynulliad Cymreig."
Mae'r ddrama yn adrodd yr hanes yn gyffrous a bywiog.
Mae'n drist ar brydiau wrth gyfleu siomedigaeth trigolion y pentref. Gwelwn y syniadau gwahanol o fewn y pentref yngl欧n 芒 sut i ddygymod 芒'r broblem . Gwelwn deimladau'r plant, y rhieni a'r henoed pan gaewyd yr ysgol.
Yr oedd gwasanaeth olaf y capel yn deimladwy- gyda'r cwestiwn o beth i'w wneud 芒'r cyrff yn y fynwent.
Daeth y gymuned at ei gilydd er mwyn edrych ar y tr锚n olaf i adael y pentref.
Ond ochr yn ochr 芒'r darnau trist roedd hiwmor a hwnnw'n ychwanegu at ddyfnder y perfformiad.
Yr oedd y set seml yn effeithiol iawn gyda defnydd da o'r llwyfan. Yn gefndir roedd sgrin fawr gyda lluniau o'r pentref a cherddoriaeth berthnasol i gyd-fynd 芒 hwy.
Defnyddiwyd y sgrin hefyd i ddangos treigl y blynyddoedd o'r penderfyniad i foddi Tryweryn i'r protestiadau - y Swinging Sixties ac Elvis Presley er enghraifft.
Fodd bynnag, nid oedd ffasiynau'r cymeriadau ar y llwyfan yn newid gyda'r blynyddoedd!
Saesneg
Roedd defnydd o'r Saesneg i gyfleu agwedd pobl Lerpwl at y Cymry yn effeithiol hefyd.
Roedd y cast yn llawn talent ac o wynebau cyfarwydd a gadewais y theatr yn meddwl am yr hyn a welais - yr ymdrechion anobeithiol gan y bobl leol a'r canlyniad trist ac anochel a ddilynodd.
Byddwn yn argymell y ddrama hon i bawb gan ei bod yn addas i blant ac oedolion.
Yn sicr, mae'n bwysig cofio'r digwyddiad pwysig hwn yn ein hanes.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 成人论坛 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Rhagor am Porth y Byddar
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|