| |
|
Mosgito Gwewyr a diflastod diarbed yr ifanc
Adolygiad Gwyn Griffiths o Mosgito. Theatr Ieuenctiod Genedlaethol yr Urdd, Talaith y De. Canolfan Gartholwg, Pentre'r Eglwys ger Pontypridd. Gorffennaf 8, 2008.
Mosgito yw enw'r ddyfais sy'n creu s诺n uchel, annifyr, sy'n merwino clustiau pobl ifanc i beri iddyn nhw symud i ffwrdd o siopau a chorneli stryd lle nad oes croeso iddyn nhw.
Mae'n s诺n na all clustiau oedolion ei glywed ac os ydw i'n cofio'n iawn fe'i dyfeisiwyd gan rywun o ardal Pontyp诺l.
Dyna'r ddyfais yn nheitl cynhyrchiad Talaith y De, Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd a berfformiwyd gyntaf yng Nghanolfan Gartholwg, Pentre'r Eglwys.
Pwysau a hasl Y pwysau hwnnw, yr hasl, sy'n llethu bywydau ansicr yr ifanc - efallai'n ddwysach heddiw nag erioed - yw thema sgript Caryl Lewis a chafwyd cyflwyniad llawn tyndra anghysurus, sinistr bron, o'r funud yr aethom i mewn i'r theatr.
Er enghraifft, rhaid oedd cerdded ar draws y "llwyfan" lled dywyll a myglyd drwy'r actorion yn eu cycyllau ar ein ffordd i'n seddau.
O rythmau caled y gerddoriaeth daw s诺n y mosgito i darfu'r actorion a pheri iddyn nhw anesmwytho. Wrth gwrs, nid yw'r gynulleidfa'n ei glywed - er inni gael ei brofi ar y diwedd. A pheth digon annifyr oedd e.
Rhyfeddol o ddigalon Mae'r sioe'n ein tywys drwy brofiadau sy'n poeni'r ifanc - ystod eang, rhyfeddol o ddigalon o sefyllfaoedd.
Mae Gari, y prif gymeriad (Wil Lewis) yn gofalu am ei fam anabl a cheisio gwneud ei orau'n yr ysgol tra'n poeni am fynd i goleg a gorffen gyda'r ddyled o 拢20,000.
Cawn olwg ar dyndra ansicr yr ifanc, ansicrwydd yngl欧n 芒 pherthynas, ansicrwydd sy'n peri iddyn nhw gilio o'r unigrwydd i stafelloedd sgwrsio'r rhyngrwyd i ddianc rhag "byd rhy beryglys i fentro allan iddo".
Cawn y ferch ysgol sy'n canfod ei bod yn feichiog, y bachgen sy'n ceisio byw gyda'i dad dibynnol ar alcohol, y bachgen bach sy'n cael ei ddysgu i ddwyn gan ei frawd h欧n ac yn y diwedd yn trywanu merch ar ddamwain mewn disgo . . . cyfres o ddigwyddiadau trist a digalon.
Argyhoeddi'n llwyr Dyma berfformiad oedd yn argyhoeddi'n llwyr. Efallai am mai pobol ifanc sy'n actio pobol ifanc sydd fwy neu lai o'r un oed 芒 nhw'u hunain.
Roedd y tyndra'n ddi-dostur o'r dechrau i'r diwedd.
Di-dostur; a digalon, hefyd. Ni allwn ond teimlo digalondid o ystyried mai dyna'r math o wewyr a pheryglon sydd bellach yn rhan o brofiad bob dydd llawer o bobol ifanc ein trefi a'n cymunedau tlotaf.
Yr oedd hwn yn gynhyrchiad egn茂ol gignoeth o sgript dda.
Gwaetha'r modd, rwy'n ofni bod llawer o bobol ifanc yn uniaethu 芒 chymeriadau a sefyllfaoedd y sioe ddrama hon.
Hiraethu Fe'm cefais fy hun yn hiraethu am ddeunydd gyda mwy o hwyl ac asbri diniwed ar gyfer bechgyn a merched o'r oed yma. Eto, pam y teimlwn yr anghysur? Pwy sy'n gyfrifol am y sefyllfa? Ni, mae'n debyg.
Bydd perfformiad o Mosgito yn Theatr y Maes, yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, ddydd Sadwrn Awst 2 am 1.00.
Rhagor am y gynyrchiadau Theatr Ieuenctid Genedlaethol yr Urdd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|