|
Mwnci ar D芒n Troi ystadegau'n gig a gwaed
Mae pob un o'r cymeriadau yng nghynhyrchiad diweddaraf cwmni Arad Goch yn bobl sydd wedi eu niweidio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
"Beth sydd yn rhoi ysgytwad i rywun yw deall y medr un weithred, un gair hyd yn oed, wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau'r unigolion hyn," meddai datganiad gan y cwmni am Mwnci ar D芒n gan S锚ra Moore Williams sy'n cychwyn yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli, 15 Ionawr 2008.
"Mae'r pedwerydd cymeriad, y cerddor, yn fwy o benbleth," ychwanegir.
Troi ystadegau yn bobl
Y cefndir i'r cynhyrchiad sydd wedi ei anelu at bobl ifainc dros 13 oed ac oedolion yw cyhoeddiad gan UNICEF yn 2007 mai Prydain yw'r lle gwaethaf yn y byd diwydiannol i gael ei fagu ynddo.
Y bwriad yn y ddrama yw rhoi wyneb i ystadegau brawychus. Troi ffigurau yn bobl.
"Yn ystod munudau cyntaf 2008 lladdwyd dau fachgen ifanc ar strydoedd ein dinasoedd. Yn ddyddiol mae milwyr ifanc yn cael eu lladd a'u clwyfo yn Irac ac Afgahanistan.
"Wrth gwrs ein bod yn arswydo o glywed y fath ystadegau ond buan yr anghofiwn.
"Nid felly wrth gwrs pe byddem yn adnabod y bobl ifanc yma - pe byddai'r ystadegau yn gig a gwaed i ni," meddir.
"Yn sgil drama S锚ra Moore Williams mae modd i ni ddod wyneb yn wyneb a'r fath gymeriadau ac efallai i ddeall gwraidd eu problemau a'r ymddygiadau anghymdeithasol a ddaw yn aml yn sgil profiadau chwerw." ychwanegir.
Chwaraeir rhan Mwnci yn y teitl gan Marc Roberts gydag Emyr Bell yn chwarae rhan Hen, Lowri Si么n (Shell) a Steffan Podolczuk ar y git芒r.
Perfformiadau Ionawr 15 Neuadd Dwyfor, Pwllheli, 1pm a 7.30pm (Cymraeg) 01758 704088
Ionawr 17 Theatr Gwynedd, Bangor, 1.30pm (Cymraeg) 01248 351708
Ionawr 18 Theatr Gwynedd, Bangor, 10.30am (Saesneg) 01248 351708
Ionawr 22 Rhymney Youth Centre, 7.00pm (Saesneg) 01443 864066
Ionawr 24 Ysgol y Cymer, Rhondda, 7.30pm (Cymraeg), CIC 01685 882299
Ionawr 25 Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth, 1.45pm (Saesneg) 01654 702012
Ionawr 28 Ysgol Bro Morgannwg, Y Bari, 7.30pm (Cymraeg) Menter y Fro 01446 720600
Ionawr 29 Neuadd Pontyberem, 7.30pm (Cymraeg) 01269 871600
Ionawr 30 Canolfan Celfyddydau Pontardawe, 1.00pm (Cymraeg) 01792 863722
Ionawr 31 Ysgol Bryntawe, Abertawe, 7.30pm (Cymraeg), Menter Iaith 01792 460906
Chwefror 1 Neuadd Bronwydd, 7.30pm (Cymraeg), Menter Iaith 01267 243940
Chwefror 6 Theatr Clera, Welshpool, 7.00pm (Saesneg) 01686 629808
Chwefror 7 Theatr Llwyn, Llanfyllin, 7.30pm (Cymraeg), Menter Maldwyn 01686 614021
Chwefror 8 Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, 7.30pm (Cymraeg), Menter Iaith Maelor 01978 363791
Chwefror 18 Chapter, Caerdydd 1pm a 7pm (Cymraeg), 02920 304400
Chwefror 19 Aberystwyth (lleoliad i'w gadarnhau) 7.30pm (Cymraeg) 01970 617998
Chwefror 20 Aberystwyth (lleoliad i'w gadarnhau) 7.30pm (Saesneg) 01970 617998
Rhif ff么n Cwmni Arad Goch yw 01970 617998.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o'r ddrama
|
|
|