|
Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r Adolygiad gan Eifion Lloyd Jones
Adolygiad Eifion Lloyd Jones o gynhyrchiad Llwyfan Gogledd Cymru o Mae Gynnon ni Hawl ar y S锚r gan Iwan Llwyd. Theatr Gwynedd, Mawrth 3, 2007.
Breuddwydio am y s锚r?
Cynhyrchiad cynnil ac effeithiol sy'n gadael ei 么l ar feddwl a theimlad y gynulleidfa oedd hwn gan Lwyfan Gogledd Cymru, ond heb ddilyn trywydd unrhyw gwestiynau dadleuol iawn.
Roedd teitl drama Iwan Llwyd yn gwrth-ddweud cerdd Hedd Wyn, Y Blotyn Du, ac felly'n awgrymu fod cwestiynau niferus y gellid eu gofyn am hanes a myth y bardd o'r Ysgwrn.
Haeriad go chwyldroadol Mae'n naturiol fod ei farw'n 诺r ifanc ar Gefnen Pilkem cyn taenu'r lliain du dros gadair Penbedw wedi cynhesu emosiynau'r genedl tuag ato.
Ac mae'n rhesymol tybio y gallai'r awdurdodau gwleidyddol fod wedi ceisio manteisio ar hynny i chwifio baner aberth yr hogia' dros eu "gwlad".
Ond awgrymai cyhoeddusrwydd y cwmni ymlaen llaw mai er mwyn codi'r faner honno y dyfarnwyd mai Fleur-de-lys oedd piau'r gadair ac nad oedd o'n wir yn ei haeddu - haeriad go chwyldroadol i'r genhedlaeth h欧n sydd wedi cadw lle annwyl i Elis Evans yn eu calonnau ar hyd y blynyddoedd.
Yn ffodus, nid dyna oedd neges y ddrama i mi ond cyfle i rannu teimladau tebygol llanc digon cyffredin o Drawsfynydd a gafodd ei aberthu, fel y miloedd anadnabyddus, yn ffosydd Ewrop.
Aros yn y cof Set syml, lonydd, pur wag, oedd ar y llwyfan, yn cynrychioli bar yfed tlodaidd a budr un o strydoedd cefn chwilfriw Fflandrys, ac oherwydd ei symlrwydd naturiol, mae'n debyg, y mae'n ddelwedd sy'n parhau yn y cof wedi'r cynhyrchiad - a'i gwacter yn cyfleu gwacter ystyr y gyflafan o'i chwmpas.
Merch ifanc gyffredin sy'n gwarchod y bar, merch sydd wedi dioddef creithiau emosiynol y rhyfel ond sy'n dal i freuddwydio am yfory gwell pan fydd ei chariad o yrrwr tr锚n yn cyrraedd i'w chipio i wynfa well.
Mae hi'n anwylo'r sodlau uchel coch fydd yn adfer y ddawns i'w bywyd llwyd.
Yr actorion Rhian Blythe sy'n portreadu'r ferch yn effeithiol dros ben gyda'r symlrwydd naturiol yn ei symud a'i llefaru yn argyhoeddi; fel sy'n nodweddiadol o waith Rhian.
Huw Garmon sy'n meddiannu'r llwyfan am gyfran helaeth o'r ddrama ond nid fel Hedd Wyn y ffilm.
Rwsiad, neu Wcraniad, ydi o yma, yn filwr o dras sydd wedi'i ganfod ei hun mewn brwydr y mae'n disgwyl gweld ei diwedd "cyn y Nadolig", er mwyn dychwelyd i frwydr bwysicach yn ei famwlad.
Breuddwydio y mae yntau, felly, am oruchafiaeth y bobl dros hen drefn uchelwrol Rwsia, ond fod osgo'r uchelwr milwrol yn ei ymarweddiad ei hun.
Dyma berfformiad grymus llawn argyhoeddiad gan Huw Garmon.
Huw Llyr, fel Hedd Wyn, oedd y cymeriad gwanaf ar y llwyfan - ac nid beirniadaeth o'r actor mo hynny.
Roedd yntau'n argyhoeddi fel y milwr diniwed ar gwr y llwyfan oedd ddim yn deall arwyddoc芒d y rhyfel ond oedd yn magu peth hyder o'r poteli cwrw
Yr hyder hwnnw oedd yn ei alluogi yntau i rannu'i freuddwyd - am ennill cadair y Genedlaethol.
Ac er bod dyfynnu barddoniaeth yn anorfod, 'doedd dim gormod ohono, hyd yn oed o Saesneg Shelley.
Ond mi fyddwn i'n awgrymu mai'r pregethu undonog am gerdd Shelley oedd un o ychydig wendidau'r cynhyrchiad.
Heb ddilyn y ffasiwn! O grybwyll y dyfynnu derbyniol o gerdd Saesneg, dyma gyfle i ganmol y dramodydd am beidio 芒 dilyn y ffasiwn syrffedus o gael cymeriad neu ddau ym mhob drama lwyfan a theledu i siarad Saesneg.
Yma, roedd milwr o'r Wcrain a merch o wlad Belg yn llefaru Cymraeg mor naturiol 芒'r llanc o Drawsfynydd.
Bardd ydi'r dramodydd
Sgript gredadwy, ac eto, nid sgript gyffredin oedd hi. Roedd rhythmau a delweddau yn cyfleu mai bardd ydi'r dramodydd.
Camp fawr Iwan Llwyd oedd gwneud i'r farddoniaeth lafar swnio mor naturiol yma. Dim ond unwaith neu ddwy y clywyd ambell ffurf rhy lenyddol, fel "i f'atgoffa" a "'Doeddwn i ddim".
Roedd llinellau llafar gafaelgar yn llawer mwy cyffredin: "Mae'r dre 'ma'n bla o Gymry sy'n meddwl bod nhw'n feirdd" a "Be' 诺yr bardd am y byd go iawn?"
Gydag ambell ddyfyniad o ddyddiadur Hedd Wyn yn gymysg 芒'r ddeialog rhwng y cymeriadau, 'doeddwn i ddim wedi f'argyhoeddi'n llwyr o'u gwerth, ac eto 'doedden nhw ddim yn dramgwydd, 'chwaith.
Pethau i'w cofio Eiliadau cofiadwy oedd: Arwisgo'r bardd 芒 Jac yr Undeb, Cymharu'r Archdderwydd 芒 Tsar Rwsia, Chwifio'r cledd yn fygythiol uwchben y bardd, Ac yn arbennig y recordiad Eisteddfodol o "A oes heddwch?" yn gymysg 芒 tharannu'r gynnau mawr.
Chwalu'r breuddwydion
Drama gynnil a chofiadwy, felly, a'r olygfa ola'n afaelgar dros ben: ar 么l i bleidiwr y Faner Goch ymadael, mae Alois yn tynnu'r sodlau uchel coch, cyn i olau coch y gwaed ganolbwyntio ar y blodau coch o amgylch cadair wag yr Eisteddod ffug.
Dyma olygfa fud sy'n crynhoi sgript grefftus am chwalu breuddwydion oedd yn gwrth-ddweud teitl y ddrama tra'n cadarnhau barddoniaeth Hedd Wyn:
"Nid oes gennym hawl ar ddim byd Ond ar yr hen ddaear wyw."
Y daith Cychwynnodd y daith yn Theatr Gwynedd, Bangor, Mawrth 2 a 3 gan ymweld wedyn 芒: Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Mawrth 6 Theatr Ardudwy, Harlech, Mawrth 8 Theatr Elli, Llanelli Mawrth 10 Canolfan Hamdden, Llanfair Caereinion Mawrth 12 Galeri, Caernarfon, Mawrth 15. Clwyd Theatr Cymru, Mawrth 16. Neuadd Gyhoeddus, Llanrwst, Mawrth 17. Chapter, Caerdydd, Mawrth 19 - 20. Neuadd y Pentref, Trawsfynydd, Mawrth 22.
Cysylltiadau Perthnasol
Rhagor am y ddrama
Vaughan Hughes ac Ian Rowlands yn trafod
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|