| |
|
Trafaelu ar y Tr锚n Glas Pryddest o ddrama gan Sharon Morgan
Adolygiad Gwyn Griffiths o Trafaelu ar y Tr锚n Glas gan Sharon Morgan. Rhosys Cochion. Perfformiad cyntaf yn Chapter Caerdydd. Mai 9 2008.
Mae Sharon Morgan wedi torri cwys unigryw sy'n rhoi pleser arbennig iawn yn y theatr Gymraeg gyda'i sioeau un ddynes.
Bu Shinani'n Siarad ac Ede Hud yn arbennig am safon y perfformio, fel y buasem yn ei ddisgwyl gan yr actores ddawnus hon. Ond nid yn unig hynny bu ansawdd y sgrifennu, hefyd, o'r radd uchaf.
Yr orau eto Rwyf am fentro dweud yn bur hyderus mai Trafaelu ar y Tr锚n Glas a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Theatr Chapter, Caerdydd, nos Iau, Mai 8, yw'r orau eto. Mae Sharon fel pe'n gwella bob tro.
Dynes yng ngwewyr dyfodiad canol oed o fewn muriau uchel ei gardd fach ddinesig sydd yma'n myfyrio'r presennol a'r dyfodol yng ngoleuni ei hatgofion o'r gorffennol.
Weithiau mae'n drist, weithiau'n heriol neu'n ddoniol, dro arall mae'n ymylu ar y gwallgof.
Ein hysgwyd Ar adegau cawn ambell bwt o sylw sy'n ein hysgwyd. Dywed nad oes yna ddim i'n paratoi i roi genedigaeth nac i farw.
Daw'r llythyr: "Annwyl fenyw dros hanner cant ..." - yn gofyn iddi fynd am y bronbrawf a'r prawf ceg y groth. "S'dim hawlie 'da chi nawr - chi'n hen".
Fe'i cawn hi'n ail-fyw gwewyr yr esgor - ar 么l hyn'na i gyd fe ddylen nhw fod yn anfeidrol!
Ond nawr bod hyn i gyd o'i h么l ac mae'n hiraethu am "y melltith" am gylch lleuadaidd fisol ei chorff. Mae'n ofid iddi ei bod bellach yn rhydd o'r llanw a'r trai corfforol hwnnw.
Ofni'r wyneb yn y drych Weithiau mae'n heriol wynebu'r dyfodol. Dro arall yn ofni'r wyneb yn y drych. 'Does dim byd gwaeth na henaint oherwydd nid oes gwellhad iddo. A phan ddaw'r awr wyddom ni ddim i ble mae'r tr锚n glas yn mynd. Ydym, rydym yn gwybod llawer, ond yn y pendraw'n deall dim.
Yn gefndir i'r llwyfan cawn y lleuad gyda'r holl symboliaeth sy'n gysylltiedig a hi - fel y llanw a thrai a ysgogir ganddi, a'r gorffwylledd a honir ei fod yn cael ei ennyn ganddi.
A'r foment ddoniol glyfar pan fo Sharon Morgan yn bwrw'i chysgod gwrachaidd ar draws y lleuad.
Pryddest o ddrama Dyma waith a pherfformiad llawn emosiwn, dychymyg, cynnwrf, egni a ffantasi.
Mae'n bryddest o ddrama, yn farddoniaeth; cawn berlau bach cyson fel pan yw'n breuddwydio am "ardd ddof sy'n canu grwndi".
Haedda gael ei chyhoeddi i ni gael ei darllen, ei mwynhau a'i hastudio. Gyda sgriptiau'r sioeau blaenorol fe wnai gyfrol gwerth ei chael.
Ceir ail berfformiad o'r ddrama yn Chapter nos Wener Mai 9 ac wedyn taith.
Y Daith Mai 10 (7.30) Theatr y Gromlech, Crymych.
Mai 14 (7.30) Y Tabernacl, Machynlleth.
Mai 15 (7.45) Y Lyric, Caerfyrddin.
Mai 16 (7.45) Canolfan Gartholwg, Pentre'r Eglwys.
Mai 17 (7.30) Theastr Felinfach.
Mai 20 (7.30) Ysgol Gymraeg, Gwaun Cae Gurwen.
Mai 15 (7.30) Y Lyric, Caerfyrddin.
Mai 15 (7.45) Y Lyric, Caerfyrddin.
Mai 21 (7.30) Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
Mai 22 (7.30) Theatr Gwynedd, Bangor.
Mai 23 (7.45) Clwyd Theatr Ctymru, Yr Wyddgrug.
Mehefin 14 (7.30) Ysgol Llanfihangel-ar-Arth.
.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|