Caerdroia Perfformiad mewn coedwig
Bydd cynhyrchiad nesaf Llwyfan Gogledd Cymru yn un go anarferol gyda'r gynulleidfa yn ei brofi fesul un - a hynny mewn coedwig!
"Yn ystod Gorffennaf 2005 mi fydd yna berfformiadau bob nos mewn caerdroea - Labyrinth sydd wedi ei adeiladu'n arbennig ar gyfer y prosiect hwn yng Nghoedwig Gwydir ger Llanrwst," meddai Llio Huws o'r cwmni.
Misoedd o waith Mae'n gynhyrchiad sy'n ffrwyth misoedd o waith celfyddyd yn y gymuned dan arweiniad Cwmni Cynefin," ychwanegodd.
Mae Caerdroia yn golygu fod gwirfoddolwyr lleol o ardal Dyffryn Conwy yn gweithio ochr yn ochr 芒 beirdd ag artistiaid i greu golygfeydd dramatig y tu fewn i lwybr milltir o hyd a gr毛wyd yn y coed gyda phob aelod o'r gynulleidfa yn mynd i mewn fesul un.
Yn cymryd rhan bydd Iwan Llwyd ac Esyllt Harker.
"Thema'r cynhyrchiad yw'r berthynas unigryw rhwng treftadaeth naturiol ac ieithyddol yr ardal- y berthynas rhwng gair a'r hyn y mae'r gair yn ei ddisgrifio, a'r tensiwn sydd yn codi yn sgil esgeuluso un o'r rhain," meddai Llio.
Bob nos Bydd perfformiadau bob nos Gorffennaf 5 i 29 gan ddechrau rhwng saith o'r gloch a deg.
Trefnir perfformiadau ychwanegol yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Bydd yn cymryd oddeutu hanner awr i bob aelod o'r gynulleidfa ddilyn y llwybr.
Er mwyn sicrhau amseru llyfn bydd yn rhaid i ymwelwyr archebu eu tocynnau ymlaen llaw.
Dywedodd Llio fod Llwyfan Gogledd Cymru yn chwilio am nawdd o sawl ffynhonnell i'w alluogi i gynnal y cynhyrchiad hwn am y pum mlynedd nesaf gan ei wneud yn ddigwyddiad sefydlog ac yn berfformiad y bydd yn rhaid ei weld.
Gellir archebu tocynnau ar 01286 685226 ac mae gwybodaeth ar wefan y cwmni.