Noson i'w Chofio gan Huw Derfel gyda Lowri Hughes a Carwyn Jones. Cyfarwyddo: Arwel Gruffydd.
Adolygiad: Dave Taylor
Drama Huw Derfel yw'r drydedd ac ar gyfer dau gymeriad.
Byddai dweud 'dechreuodd' y ddrama yn ffordd hollol ddifflach o ddisgrifio'r olygfa gyntaf ac yn tanbrisio gallu Arwel Gruffydd fel cyfarwyddwr.
Ffrwydrodd (dyna welliant!) cerddoriaeth clwb nos ar draws y sgwrsio a'r trafod oedd heb dawelu ers yr egwyl, a'n gadael ni'n edrych ar dablo o'r cymeriadau'n sefyll wyneb yn wyneb.
Wrth i'r gerddoriaeth barhau, mae'r cymeriadau'n taflu eu hunain at ei gilydd.
Eto, byddai cusanu'n air rhy dila - prin y tynnodd yr un o'r ddau gymeriad anadl; os rhown ni hi felly!
Symudwn o'r olygfa yn y clwb nos i fflat y ferch (Lowri Hughes) - lleoliad 'adloniant' y noson. Cael noson i'w chofio oedd ei fwriad o (Carwyn Jones) a'i chael hi - ond mae'n cael tipyn bach mwy na'r hyn oedd wedi'i ddisgwyl...
Sgwrs eitha' nodweddiadol o sefyllfa 'one night stand' oedd i ddilyn. Rhes o gwestiynau ganddi hi ac yntau'n eu hateb gan drio cuddio'r gwir reswm pam daeth o'n 么l i'r fflat.
Gydol y corwynt o gwestiynau gan y ferch a'r atebion syml, ffeithiol ganddo fo, roedd y ddeialog yn wych a gwreiddiol gyda hiwmor drwyddi.
Roedd yr amseru'n berffaith ar adegau, fel yr adeg pan fo'r llanc yn crybwyll bod rhyw fel 'reidio beic' ac yn sylwi'n fuan iawn y gallai hithau gamddehongli hyn.
Roedd ymateb y gynulleidfa yn brawf bod yr elfen gomedi'n berffaith.
Newidiodd cywair y ddrama'n sydyn wrth i'r ferch swil ddiflannu - yn ei lle daeth dynes awdurdodol a daeth y ddrama i uchafbwynt wrth inni glywed bod y cymeriadau wedi cwrdd o'r blaen.
Cawn fonolog byr a dwys gan y ferch yn disgrifio'r noson gyntaf honno. Yn fuan iawn daw yn amlwg pam yr holl gwestiynau'n gynharach. Mae popeth yn gwneud synnwyr bellach.
Roedd perthynas y ddau gymeriad a phortread y ddau actor yn gredadwy ac roedd hi'n anodd tynnu'n llygaid oddi arnyn nhw rhag methu'r ystum lleiaf.