| |
|
Ffernols Lwcus Gobeithion loteri actorion
Mae cast a chriw drama ddiweddaraf Bara Caws - Ffernols Lwcus - yn dilyn yn 么l troed cymeriadau'r ddrama trwy brynu tocynnau loteri ar gyfer pob nos Sadwrn y byddant yn teithio Cymru.
"Yr ydym wedi ffurfio sindicet ond fyddwn ni ddim edrych ar y rhifau tan ar 么l y perfformiad olaf yn Theatr Felinfach ar Ebrill 30," meddai Tony Llewelyn y cyfarwyddwr.
Addasiad gan Bryn F么n o ddrama John Godber, Lucky Sods ydi Ffernols Lwcus ac yn ymwneud 芒'r helyntion a ddaw i ran teulu sy'n ennill y loteri.
Ond meddai cyfarwyddwr y cynhyrchiad Cymraeg, Tony Llewelyn. "Comedi ddu ydi Ffernols Lwcus ond er bod yna lawer o chwerthin ynddi hi dydi'r dagrau ddim ymhell i ffwrdd ychwaith wrth weld be sy'n digwydd i'r teulu."
Ychwanegodd i Lucky Sods gael ei haddasu'n bwrpasol ar gyfer Bara Caws.
"Mae wedi ei haddasu i barhau rhyw awr a hanner ac yn addas i'w llwyfannu mewn neuaddau pentref gyda set hynod o seml a didrafferth," meddai.
Yngl欧n ag ymgeision loteri'r Bra Caws ei hun dywedodd mai wedi'r daith y byddan nhw'n archwilio'r rhifau yn hytrach nag yn ystod y daith - rhag ofn y bydden nhw'n ei chael yn anodd parhau 芒'r daith pe bydden nhw'n filiwnyddion!
" Dwi'm yn meddwl y bydda' criw o filiwnyddion newydd yn debyg o fod isio dal i deithio Cymru mewn bws mini efo'r Bahamas yn galw," meddai.
Bydd cyfrinach y ffigurau yn cael ei datgelu gerbron cynulleidfa yn Theatr Felinfach nos Sadwrn, Ebrill 30 - a dim ond yr adeg honno y datgelir os mai actorion cyfoethocaf Cymru oedd ar y llwyfan y noson honno! Chwaraeir rhan y g诺r a'r wraig yn y cynhyrchiad gan Gwenno Elis Hodgkins a Wyn Bowen Harries sydd eisoes yn 诺r a gwraig yn y gyfres deledu, Dipyn o Stad.
Chwaraeir rhannau eraill gan Eilir Jones sy'n adnabyddus fel Ffarmwr Ffowc a Catrin Fychan, sydd i'w gweld ar Amdani ar S4C.
Dyma fanylion y daith: Ebrill 5 NEUADD BUDDUG, Y BALA Siop Awen Meirion 01678 520658 Ebrill 6 NEUADD GOFFA, AMLWCH Ian Jones 07919205217 neu Haf Wyn 01407 832110 Ebrill 7 NEUADD Y PENTREF, CYNWYD Marian 01490 412268 Ebrill 8 - 9 THEATR GWYNEDD, BANGOR 01248 351708 Ebrill 12 - 13 CLWYD THEATR CYMRU, Yr Wyddgrug 01352 755114 Ebrill l4 - 15 NEUADD DWYFOR, Pwllheli 01758 704088 Ebrill 16 CANOLFAN PENNANT, Penybont Fawr Bethan 01691 860553 Ebrill 19 YSGOL UWCHRADD LLANGEFNI Gareth: 01248 421660 neu 07747 762395 Ebrill 20 YSGOL Y MOELWYN, BLAENAU FFESTINIOG Gwen Edwards: 01766 830435 Ebrill 21 THEATR TWM O'R NANT, DINBYCH Siop Clwyd (01745) 813431 Ebrill 22 CANOLFAN GYMUNED LLANRWST Menter Iaith Conwy: 01492 642357 neu Siop Bys a Bawd, Llanrwst Ebrill 23 GALERI, CAERNARFON 01286 685222 Ebrill 26 CANOLFAN GELFYDDYDAU, ABERYSTWYTH 01970 623232 Ebrill 27 CANOLFAN Y CHAPTER, CAERDYDD 02920 304400 Ebrill 28 CANOLFAN Y CHAPTER, CAERDYDD 02920 304400 Ebrill 29 NEUADD BRONWYDD, BRONWYDD, CAERFYRDDIN Menter Iaith Taf Myrddin 01994 241222 Ebrill 30 THEATR FELINFACH, DYFFRYN AERON 01570 470697 (Dechrau am 7.30 (Canolfan y Chapter 8.00 a Theatr Clwyd 7.45)
|
Ashlee, caerdydd roedd yn dda ac yn hwyl ac roeddwn wedi mwynhau
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|