|
Hen Rebel Hanes diwygiad Evan Roberts gan Gwmni Theatr Genedlaethol Cymru
Y diwygiad crefyddol rhyfeddol a sgubodd drwy Gymru ganrif union yn 么l yw testun cynhyrchiad nesaf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
Sioe gerdd am Evan Roberts a Diwygiad mawr 1904-05 ydi Hen Rebel sy'n cychwyn ar daith o amgylch Cymru fis Hydref 2005.
Chwaraeir rhan Evan Roberts gan David Lyndon o Lanelli.
Ar 么l graddio ym Mhrifysgol Birmingham cafodd David Lyndon yrfa amrywiol a llwyddiannus gan fwynhau rhannau ar lwyfannau'r West End yn Llundain a chyda chwmni'r RSC.
Mae hefyd wedi ennill doethuriaeth mewn hyfforddi actorion ac mae'n ddarlithydd drama rheolaidd mewn coleg a phrifysgol.
Y diwygiad Am naw mis, rhwng Tachwedd 1904 ac Awst 1905, bu'r cyn lowyr a gof 25 oed yn arwain diwygiad a ddenodd 100,000 o bobl.
Bu golygfeydd rhyfeddol yn rhai llefydd wrth i'r dwymyn grefyddol afael ynddyn nhw.
Mae'n rhan o chwedloniaeth y cyfnod i dafarndai gau ac i gemau p锚l-droed gael eu gohirio wrth i fynychwyr heidio i'r capeli.
Pum cantores "Daeth Evan Roberts a'r pump o gantoresau oedd yn ei gwmni'n enwog dros nos a chofnododd gohebwyr y wasg yn lleol ac yn genedlaethol ddatblygiad eu s锚l Gristnogol," meddai Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
"Roedd canu cynulleidfaol, wrth gwrs, yn ganolog i lwyddiant crws芒d Evan Roberts ac mae hynny'n ei dro'n cynnig conglfaen ardderchog ar gyfer cynhyrchiad cerddorol," ychwanegodd.
Bydd 13 yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad gan gynnwys David Lyndon fel Evan Roberts.
Aelodau eraill y cast ydi Maldwyn John, Llion Williams, Frank Lincoln, Dafydd Huw James, Rhys ap Wiliam, Carys Gwilym, Angharad Lee, Elin Llwyd yn ogystal 芒'r pedwar o actorion craidd Theatr Genedlaethol Cymru, Owen Arwyn, Rhian Blythe, Carys Eleri a Dave Taylor.
Bydd dau gorws gwahanol hefyd, un ar gyfer perfformiadau yn theatrau'r gogledd a'r llall ar gyfer perfformiadau'r de.
Yr actores, cyfarwyddwraig a'r dramodydd, Falmai Jones, sydd wedi sgriptio Hen Rebel a'r trefniant cerddorol gan Einion Dafydd.
'Byw a iasol' "Ein nod yw cyfleu'r digwyddiad anhygoel, gwefreiddiol a sobreiddiol yma mewn modd sy'n fyw ac yn iasol," ychwanegodd Cefin Roberts.
"Mae'r modd y bu i Evan Roberts ddechrau diwygiad crefyddol byd eang ar y naill law ond yma yng Nghymru, ar y llaw arall, i'r brwdfrydedd crefyddol ddiflannu o fewn cenhedlaeth, yn stori anhygoel ynddi'i hun ac yn un sy'n werth ei hadrodd," meddai.
Er gwaethaf ei lwyddiant ysgubol cafodd Evan Roberts ei hun ei feirniadu a theimlodd iddo gael ei dwyllo a'i gamarwain.
O ganlyniad chwalodd ei nerfau ac ymgiliodd rhag olwg y cyhoedd gan fyw am gyfnodau yng Nghaerl欧r ac yn Brighton cyn dychwelyd i Gasllwchwr yn 1928.
Bu'n byw yno yn feudwy, fwy neu lai, tan ei farwolaeth yn 72 oed.
Fe'i claddwyd, lle y dechreuodd y cwbl, yng Nghapel Moriah, Casllwchwr, ar Ionawr 29, 1951.
Y daith Bydd Hen Rebel yn cychwyn ar daith yn Theatr Sherman, Caerdydd Hydref 6-8, 2005 gyda pherfformiadau'n dilyn yn:
- Theatr Lyric, Caerfyrddin, Hydref 11;
- Theatr Ardudwy, Harlech, Hydref 13-14;
- Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Hydref 20-21;
- Theatr Mwldan, Aberteifi, Tachwedd 3-4;
- Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, Tachwedd 8-9;
- Bydd y perfformiadau olaf yn Theatr Gwynedd, Bangor, Tachwedd 16-19.
Bydd sesiwn egluro ar gyfer dysgwyr cyn un perfformiad ym mhob un o'r theatrau. Dylid cysylltu 芒'r theatrau am fanylion.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|