|
Meini Gwagedd
Adolygiad Gwyn Griffiths o gynhyrchiad Cwmni Troed y Rhiw o Meini Gwagedd gan Kitchener Davies. Neuadd Goffa Tregaron.
Meddyliais lawer gwaith pam na chawsom yn y Gymraeg nofel amaethyddol yn dinoethi gwir galedi bywyd y wlad, y gobeithion yn troi'n anobaith, y tlodi, yr anghysur.
Cafwyd amryw yn Ffrangeg - fel Rousille neu Y Tir yn Darfod, cyfieithad T. Ifor Rees o nofel Ren茅 Bazin, neu La Vie d'un Simple (Bywyd dyn cyffredin) gan Emile Guillaumin.
Drama arloesol Dwy neu dair blynedd yn 么l fe gawsom y fath nofel, Martha, Jac a Sianco - gwaith ardderchog Caryl Lewis.
Yr hyn na sylweddolais oedd fod y fath ymdriniaeth gennym ers blynyddoedd ym Meini Gwagedd, James Kitchener Davies.
Prin hanner dwsin o gynyrchiadau a gafwyd o'r ddrama hon a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llandyb茂e, 1944, ac er ei chydnabod yn un o ddram芒u mwyaf arloesol ei chyfnod - clywais un yn barnu mai dyma ddrama Gymraeg fwyaf yr ugeinfed ganrif - aeth yn angof.
Torri'n rhydd Profiad amheuthun oedd gweld ei hatgyfodi gan Gwmni Cydweithredol Troed y Rhiw a'i pherfformio gerbron cynulleidfa lawn a gwerthfawrogol yn Neuadd Goffa Tregaron nos Sadwrn, Ionawr 27.
Cwmni amatur - ond o'r safon broffesiynol uchaf - oedd yn mynd a ni'n 么l i wraidd traddodiad amatur y ddrama Gymraeg y gwyddai Kitchener Davies yn dda amdano.
A thraddodiad y mentrodd dorri'n rhydd ohono.
Mae rhyw b诺er rhyfedd, anniffiniol, i gors. Y fawnog gorslyd, y tir a reibiwyd ac a felltithiwyd, yr "uffern lonydd, leddf, ar ryw bell ros".
Daw nofel Alphonse de Chateaubriant, La Bri猫re, am fywyd ar y gors fawr yn ne-ddwyrain Llydaw i gof.
Y darlun o wlybaniaeth, o dai afiach, o frwydr 芒 thlodi a'r tyndra rhwng pobol yn ceisio crafu byw. Dyna gawn ni yn Meini Gwagedd, hefyd.
A dyna ble mae'r ddrama'n torri o hualau traddodiad amatur hanner cyntaf ugeinfed ganrif y ddrama Gymraeg. Y tyndra o'i mewn a thu allan - a 'does yna 'run gweinidog ar gyfyl y lle!
Dwy genhedlaeth Rhithiau yw'r cymeriadau, yn dychwelyd o'u beddau ar noswyl Mihangel i adfail Glangors-fach.
Cawn ddau deulu, Teulu A (neu Y Tri) a Theulu B (neu Y Pedwar).
Rhwng y tad - neu Y G诺r - a'r ddwy ferch, Mari a Shani, mae Teulu A yn cynrychioli dwy genhedlaeth.
Mae Teulu B - Ifan, Rhys, Elen a Sal - dau frawd a briododd ddwy chwaer - yn perthyn i gyfnod, neu genhedlaeth, ddiweddarach eto.
Mae Teulu A yn gwylio'r hyn sy'n digwydd ond nid yw Teulu B yn ymwybodol o bresenoldeb y rhai sy'n eu gwylio.
Mae Y G诺r, sef tad y ddwy ferch yn Teulu A, wedi melltithio'r tir a'r tyddyn am i'w ddwy ferch gefnu ar eu treftadaeth a mynd i fyw fel "l芒dis" i'r dref.
Mae'r felltith yn golygu bod yn rhaid iddynt ddioddef hyd dragwyddoldeb ddirmyg eu tad am yr hyn a wnaethant.
Ond mae'r felltith hefyd yn syrthio ar deulu B a gymerodd y tir a'r tyddyn ar brydles oddi ar y ddwy ferch o Deulu A ac y mae holl obeithion Y Pedwar yn chwalu dan eu dwylo.
"Y gwair yn pydru ar yr adladd, y llafur yn egino'n y stacan, a'r helmydd heb eu toi tan Nadolig, y tatw'n rhewi'n y cladd, a'r mawn ar y gors heb eu codi, buwch gyflo yn rhwygo ei chader ar rwd weiren bigog."
Ail fyw trychinebau Penyd aelodau Teulu B yn y ddrama yw gorfod dioddef ail-fyw trychinebau bywyd yng Nglangors-fach.
Yn y gwreiddiol mae'r ddrama'n digwydd o fewn muriau murddun Glangors-fach ond daeth y cynhyrchydd, Euros Lewis, a'r cyfarwyddwr, Roger Owen, 芒 gw锚dd gyfoes iawn i'r ddrama.
Ymddengys i ddechrau ei bod yn cael ei chyflwyno fel drama i leisiau gyda'r ddau deulu'n eistedd yn wynebu ei gilydd a'r ddeialog yn torri o'r naill i'r llall.
Ond o dipyn i beth mae'r cymeriadau'n codi, yn cerdded o gwmpas gan edliw a dadlau ymysg ei gilydd.
Mae'r tyndra'n drydanol.
Y gors yn ymlid Cawn y gors ei hun, wedyn, yn troi ac yn ymlid Teulu B mewn darn campus o gyfarwyddo.
Yn ogystal 芒'r cymeriadau'n gwingo yng ngafael y gors cawn gysgodion yr actorion ar y nenfwd yn ychwanegu at y tyndra.
Mae yn y ddrama negeseuon clir am bwysigrwydd cadw a pharchu etifeddiaeth - neges sy'n parhau'n berthnasol ar gyrion Cors Caron a llu o ardaloedd eraill yng Nghymru.
Dotio at yr iaith Fy hunan dotiwn at yr iaith. Er nad drama mewn tafodiaith fel y cyfryw yw Meini Gwagedd hyfryd oedd clywed hen eiriau a ddiflannodd o'm cof yn cael eu lle a'u parch haeddiannol yn y ddrama.
Ac actorion lleol ardderchog oedd yn siarad yr iaith a gwybod ystyr y geiriau.
Yn ystod yr un noson darllenwyd detholiad o bryddest radio Kitchener Davies, S诺n y Gwynt sy'n Chwythu, gan ei fab-yng-nghyfraith, T. James Jones.
Perfformiad synhwyrus a chaboledig arall mewn noson gofiadwy a chyfoethog gyda Chwmni Troed y Rhiw.
Cysylltiadau Perthnasol
J Kitchener Davies
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|