| |
|
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru Mewn tair iaith
Cynhyrchiad diweddaraf Llwyfan Gogledd Cymru sydd ar daith o amgylch Cymru ydi Branwen.
Cychwynnodd y cynhyrchiad "aml-gyfryngol a thairieithog" yn Theatr Gwynedd, Bangor, Tachwedd 8, 2006.
Y tair iaith a ddefnyddir yw'r Gymraeg, yr Wyddeleg a'r Saesneg.
Bu perfformiadau'n barod yn Iwerddon fis Hydref.
Datblygwyd y ddrama yn gyfochrog gan bartneriaid o Gymru ac Iwerddon a chaiff ei chyfarwyddo gan Ian Rowlands o Gymru a Darach Mac Con Iomaire o Iwerddon.
Yr awduron yw Darach 脫 Scola铆 ac Ifor ap Glyn, un o awduron cynhyrchiad arall gan Lwyfan Gogledd Cymru, Fron Goch y llynedd.
Hanes dau sgrifennwr Mae Branwen yn adrodd stori dau ysgrifennwr - Gwyddel (Stephen D'Arcy) a Chymraes (Ffion Dafis) - a daflwyd at ei gilydd i lunio sgript ar gyfer fersiwn animeiddiedig o stori Branwen o'r Mabinogion.
Yn ystod y gwaith daw'r ddau'n gariadon Celtaidd a datgelir sawl cyfrinach am berthynas y ddau ac am berthynas y ddwy wlad.
Meddai Ian Rowlands, Cyfarwyddwr Artistig Llwyfan Gogledd Cymru: "
"Mae yna baralel amlwg rhwng y stori yn y ddrama ei hun a'r broses a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r cynhyrchiad, sef uno profiadau ac agweddau o Gymru ac Iwerddon. Rydym yn hyderus bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn y gwaith terfynol a'i fod yn gynhyrchiad real a diffuant."
Y Daith: Tachwedd 8-9, 2006 - Theatr Gwynedd, Bangor
Tachwedd 14-15 - Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Tachwedd 18 - Theatr Elli, Llanelli
Tachwedd 22 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Tachwedd 24 - Theatr Ardudwy, Harlech
Cysylltiadau Perthnasol
Fron-goch - adolygiad
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|