| |
|
Holi am 'Iesu' Holi pump am ddrama Aled Jones Williams
Bu Bwrw Golwg, 成人论坛 Radio Cymru yn holi pump am y ddrama Iesu yn dilyn seminar gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Galeri Caernarfon:
Gwyn Wheldon
Megan Lloyd Williams
Meirion Lloyd Daviies
Lowri Hughes
William R Lewis
Dyma grynodeb o'r hyn oedd ganddyn nhw i'w ddweud:
Gwyn Wheldon: Dwi'n edmygu ei ddewrder am fentro torri trwy'r corff o ddiwinyddiaeth sydd gennym ni ers canrifoedd a dwi'n gobeithio y gwneith hi symbylu trafodaeth ymhlith pawb, yn grefyddwyr a phobl y tu allan. i furiau crefydd.
Mae hi'n ddrama bwysig yn y cyfnod modern.
Megan Lloyd Williams:
Mae o'n pwysleisio'r theatr gymaint - yn y cymeriadau yn y them芒u mae'n amlwg bod y gweledol yn bwysig iddo fo fo o'r dechrau ac i mi mi fuaswn i'n dweud os ydi rhywun yn gweld rhywbeth yn fyw o'r cychwyn cyntaf mae'n argoelio'n arbennig o dda. Ar gyfer y cynhyrchiad.
Yr oeddwn i wedi cael rhyddhad mawr o glywed Aled yn dweud; yn ei feddwl o mai Cymro Cymraeg ydi Iesu Grist a dwi di meddwl hynny erioed.
Meirion Lloyd Davies: Dwi'n meddwl ei bod hi'n ddrama herfeiddiol, mae hi'n ddrama bryfoclyd, mae hi'n ddrama arbrofol ac yn fwy na dim arall mi fydd yn ddrama fydd yn ysgogi pobol i feddwl.
Mi fydd yna rai pobl yn sicr yn condemnio ond i mi mae Aled fel un o'r artistiaid modern - cymrwch chi rai o luniau Picasso mae o'n chwarteru neu haneru pobl yn dadelfennu pobol.
Nid y Crist traddodiadol ydi o ond mae'n rhoi rhyw ddarlun lot mwy cyflawn inni ac mae o'n gofyn fel y dylai dramodydd fwy o gwestiynau nag y mae'n eu hateb.
Lowri Hughes:
Mi fuaswn i'n dweud ei bod hi yn ddrama a heriol yn fwy na drama herfeiddiol. Mae'n mynd i wneud inni edrych o'r newydd ar Gristnogaeth ; mae'n mynd i wneud inni edrych o'r newydd ar berson Crist ond yn bwysicach na hyn i gyd mae hi'n mynd i wneud inni edrych o'r newydd ar ein tueddiadau a'n dyheadau ni.
William R Lewis:
Mae'r portread a'r dehongliad yn mynd i droi'r drol efo rhai pobl ond be dwi'n obeithio hefyd ydi y bydd y portread yma yn apelio at rai pobl, yn torri trwy llawer o bethau sydd yn peri ofn iddyn nhw. Yn peri dryswch iddyn nhw ac yn agor drysau i bobl i weld dehongliad nerwydd o Grist.
I brif ddalen 'Iesu'
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|