| |
|
Mari'r Golau Sioe am oleuni rhyfedd Diwygiad '04-'05
Hanes gwraig oedd yn cael ei hadnabod fel Mrs Jones y Golau oherwydd ei phrofiadau yn ystod Diwygiad 1904-05 yw testun sioe gerdd newydd.
Awdur Mari'r Golau ydi'r bardd a'r llenor, Aled Lewis Evans, a bydd y sioe yn cael ei llwyfannu gan Gwmni Theatr y Stiwt yn Rhosllannerchrugog, Ebrill 22 a 23 2005.
Er mai o Egryn yn ardal y Bermo y deuai Mari Jones ymwelodd 芒 gogledd-ddwyrain Cymru a chymoedd y de yn ystod y Diwygiad.
Ei hynodrwydd oedd y goleuni rhyfedd oedd gyda hi.
Mor hynod y digwyddiad fe dynnodd sylw bapurau newydd Prydeinig yn ogystal 芒 rhai Cymru.
Yn 么l Aled Lewis Evans dywedodd nifer o'u gohebyddion iddynt hwythau hefyd weld yr hyn oedd yn cael ei alw yn "Goleuadau Egryn".
"Cofnodwyd eu profiadau yn fanwl," meddai.
Am ei sioe gerdd dywedodd y bydd yn dangos sut yr effeithiodd cenhadaeth Mari a 'gweld y Golau' ar bobl gyffredin ac ar ddwy gangen o'i deulu ef ei hun - teulu Eithinfynydd a theulu Uwchlaw'r Coed.
"Wrth glywed am hanes rhyfeddol Mari rydym hefyd yn cydnabod fod pobl gyffredin iawn fel ni yn gallu cyflawni pethau aruchel, a gwneud gwahaniaeth yn ein byd," meddai.
Am y cysylltiad teuluol dywedodd i'w hen daid weld y goleuadau wrth roi lifft adref i Mari Jones mewn car a cheffyl ac fe'u gwelwyd gan ei hen nain hefyd.
"Y cysylltiadau teuluol efo Mari sy'n parhau yn Arduduwy yw Mrs Jean Jones, Sarnfaen, Talybont, Bermo. Fe ddaeth fy nheulu innau - sef hen daid a nain, a hen daid arall i gyffyrddiad efo'r hanes gan iddynt 'weld' y Goleuadau enwog - ac i'w bywydau hwy newid o'r herwydd," meddai.
"Mae'r ddrama yn ymgais i ddweud eu hanes hwy ac i adrodd popeth fel y digwyddodd - gan ddefnyddio dyfyniadau o'r wasg ac o ysgrif fy nhaid John Evans," meddai.
Ar y pryd bu'r Gymdeithas Ymchwil Seicig yn ymchwilio i'r digwyddiad.
Yn ddiddorol iawn does yna ddim cyfeiriad at y rhyfeddod ar garreg fedd Mari Jones.
Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Arwel Tanat a'r cyfarwyddwr cerdd yw Alison Parry.
Pris tocynnau ar gyfer y sioe sy'n cychwyn am 7.30 the Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog yw 拢8 neu 拢6 i blant a phensiynwyr a gostyngiadau. 01978 841300.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|