| |
|
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur Addo cynhyrchiad fydd yn dweud y gwir am Dryweryn. . .
Bu darogan mai yn Lerpwl y byddai Eisteddfod Genedlaethol 2007 - ond er na ddigwydd hynny fe fydd lle amlwg iawn i Lerpwl yn yr Eisteddfod sy'n cael ei chynnal yn Yr Wyddgrug.
Ond nid Lerpwl ar ei gwedd orau - gan mai un o ddigwyddiadau mwyaf diddorol Prifwyl 2007 fydd y perfformiad cyntaf o ddrama Manon Eames am foddi Cwm Tryweryn i greu cronfa dd诺r ar gyfer y ddinas.
Mor arwyddocaol yw Tryweryn yn hanes Cymru, diau y bydd mwy o edrych ymlaen at y cynhyrchiad hwn nag a fu at unrhyw un arall o gynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru.
Ond wrth siarad 芒 成人论坛 Cymru'r Byd mewn cyfarfod ar lan Llyn Celyn i dynnu sylw'n swyddogol at y cynhyrchiad rhybuddiodd yr awdur nad darlun unochrog, du a gwyn a sentimental, o'r digwyddiad hwn fydd ei hun hi.
Tramgwyddo?
A phan ofynnwyd iddi a fydd yr hyn a welir ar lwyfan yn tramgwyddo rhai pobl dywedodd:
"Dwi'n meddwl falle bydd. Bydd.
"Mae yna rai pethau yn cael eu datgelu nad yw pobl ddim yn eu gwybod," meddai.
"Mae yna elfennau o'r hyn a ddigwyddodd yng Nghymru sydd yn . . . wel ddim yn ddu a gwyn. Dydi hi ddim yn stori ddu a gwyn fel sy'n wir yn aml gyda straeon 芒 chefndir gwleidyddol. Mae yna lot o warth ar sawl ochr," meddai.
Pam a sut Dywedodd y bydd y ddrama, sy'n gyfuniad o ffaith a ffuglen, yn datgelu'r ffeithiau hyn "yn gywir".
"Rydw i wedi teimlo ei bod yn fater o raid dweud y stori yma," meddai.
"Mae pawb yn gwybod beth ddigwyddodd ond mae lot o bobl nad ydyn nhw yn gwybod pam y digwyddodd o a sut y digwyddodd o a dwi'n meddwl pan fo rhywun yn dechrau darganfod hynny mae rhywun yn gwylltio cymaint mae rhywun yn teimlo ei bod yn fater o raid i ddweud y stori," meddai.
"Ac i ddweud y stori yn y ffordd yma hefyd. I beidio a thynnu n么l ar y ffeithiau, i beidio a gwenieithu ac i beidio seboni gormod a bod yn rhy sentimental ond i ddweud y stori fel y digwyddodd hi," meddai.
Ar y cyd Am y tro cyntaf yn hanes Theatr Genedlaethol Cymru bydd y cynhyrchiad hwn yn un ar y cyd a chwmni arall, Clwyd Theatr Cymru, gyda Tim Baker yn cyfarwyddo.
"Mae'n gyfle am y tro cyntaf erioed i ddau sefydliad cenedlaethol gydweithio sef Theatr Genedlaethol Cymru a Clwyd Theatr Cymru sydd mewn un ystyr yn sefydliad cenedlaethol Saesneg.
"Mae'n anhygoel fod y ddau wedi dod at ei gilydd nid yn unig oherwydd y pwnc ond oherwydd bod yr Eisteddfod yn yr Wyddgrug felly mae'n gartref i ni o ran daearyddiaeth ac mae'n gartref i'r Genedlaethol o ran iaith."
Pwysleisiodd yntau y bydd y ddrama yn fodd i ddod 芒'r gwir ffeithiau am foddi Tryweryn i'r amlwg.
"Mae hi'n ddrama fodern iawn o ran steil," meddai. "Mae hi'n gryf, mae ganddi rywbeth i'w ddweud. Mewn un ystyr mae'n wleidyddol gan fod ganddi rywbeth i'w wneud 芒'n hanes ni ond ar y llaw arall mae'n drist, yn emosiynol ac yn sentimental mewn ffordd bositif iawn."
Yn ogystal ag edrych yn 么l dywedodd fod y ddrama "yn edrych i'r dyfodol" hefyd.
'Meddwl eu bod yn gwybod' "Mae lot o Gymry yn meddwl eu bod yn gwybod yr hanes ond gyda phob parch dydyn nhw ddim, yn enwedig y to ifanc sydd angen gwybod beth ddigwyddodd er mwyn inni sicrhau na fydd y fath beth yn digwydd yn y dyfodol," meddai.
"Mae rhai yn dweud fod y llwybr i'r Cynulliad wedi dechrau yn Nhryweryn ac mae s么n am hynny yn y ddrama," ychwanegodd.
"Dydi hi ddim yn bendant na all y fath beth ddigwydd eto, dim ond oherwydd bod gennym ni rhyw fath o lais mwy o ran democratiaeth," rhybuddiodd.
Yn sefyll yng nghysgod y capel coffa a godwyd ar lan y llyn dywedodd ei fod ef yn gofidio y gallai ymwelwyr - "gan gynnwys rhai o Lerpwl" - fod yn mynd heibio Llyn Celyn heddiw heb sylweddoli ei arwyddocad.
"Felly rydym yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth yngl欧n 芒 hyn a gobeithio wneud cyfraniad tuag at y posibilrwydd o greu rhyw fath o ganolfan fan hyn gan ei fod yn symbol o'n hanes ni," meddai.
Dal yn berthnasol Dywedodd Manon Eames, er bod hanner can mlynedd union ers y penderfyniad i foddi Tryweryn fod y digwyddiad yn dal yn berthnasol heddiw .
"Ac rydw i'n teimlo pan ddechreuais i edrych ar y stori - ac mae'n stori stori gymhleth - ei bod yn symbol i lot fawr ohonom.
"Ond mae yna lot ohonom sydd ddim cweit yn gwybod beth wnaeth ddigwydd ac mae yna lot o gamddealltwriaeth hefyd - yr oeddwn i wedi camddeall llawer iawn - yn enwedig yn ystod y dyddiau cyntaf ac roeddwn i'n teimlo fod eisiau dweud y stori yma yn enwedig wrth y to ifanc achos mae'n berthnasol iawn iddyn nhw fel un o'r digwyddiadau pwysicaf ddigwyddodd i ni fel cenedl yn ystod y ganrif ddiwethaf," meddai.
Ond addawodd, er y pwnc, na fydd hon yn ddrama heb ei hiwmor.
"Dydw i ddim yn y busnes o orfodi pobl i eistedd mewn theatr i gael eu digalonni yn llwyr. Mae yna obaith ac mae yna adloniant a hiwmor ac agosatrwydd a chariad yn y cynhyrchiad hefyd," meddai.
Cysylltiadau Perthnasol
Rhagor am y cynhyrchiad
Cofio Tryweryn
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|